10% off all books and free delivery over £50
Buy from our bookstore and 25% of the cover price will be given to a school of your choice to buy more books. *15% of eBooks.

Y Defodau

View All Editions (2)

£3.99

This book will be delivered to your inbox immediately after payment. Some country restrictions apply.

Add To Wishlist
Write A Review

About

Y Defodau Synopsis

Dyma nofel newydd gan Rebecca Roberts sy’n cydbwyso galar a llawenydd y defodau sy’n fframio stori Gwawr, gan ddangos sut mae colled yn rhan annatod o fywyd.

Gweinydd yw Gwawr, sef un sy’n cynnal seremonïau enwi, priodasau ac angladdau digrefydd. Mae hi’n cynnal defodau sy’n helpu pobl i ddathlu diwrnodiau gorau eu bywydau, ac i gofio am y meirw. Mae hi’n dda wrth ei gwaith, ac yn falch o’i henw da. Ond am flynyddoedd lawer mae Gwawr wedi cuddio y tu ôl i’r ddelwedd berffaith mae hi wedi ei chreu; wedi mygu ei hiselder y tu ôl i fwgwd o barchusrwydd a phroffesiynoldeb. Pan gaiff y bai ar gam am ddifetha priodas cleient enwog aiff ei henw da yn deilchion, a does ganddi ddim byd arall i’w chynnal. Yn waeth na hynny, ymddengys bod rhywun yn gweithredu’n faleisus yn ei herbyn – yn benderfynol o’i dinistrio! Dim ond drwy ail-ymweld â chyfnod anoddaf ei bywyd y gall Gwawr ddarganfod pwy sy’n ceisio difetha ei gyrfa a’i busnes. Mae’n brofiad heriol, ydy, ond daw cefnogaeth o gyfeiriadau annisgwyl. Gyda chymorth ei chleientiaid a’i ffrindiau, dysga Gwawr wersi pwysig am natur bywyd, cariad a cholled. Ond ar ôl blynyddoedd o gadw pobl o hyd braich, a fydd caniatáu iddi ei hun fod yn fregus yn arwain at ragor o boendod a thor-calon?

About This Edition

ISBN: 9781912905652
Publication date:
Author: Roberts, Rebecca
Publisher: Honno Press
Format: Ebook

Frequently asked questions